Other languages: BZH, CAT, CYM, DE, EN, EUS FR, GAL, IT, NL
- Cyfrannu arian
- Yr Alwad
- Cyfranogion
- Wat zijn « Hemostatische verbanden »
- Beth yw’r Bataliwn Cydwaladol dros Ryddid?
- Dilyniant hanesyddol i’r Cymorth Coch
- Deunydd
- Yr wybodaeth ddiweddaraf
Youtube, Vimeo, VidMe
Cydsafiad chwyldroadol gyda Rojava
Cymerwch ran mewn codi arian drwy roi cyfraniad :
IBAN: CH82 0900 0000 8555 9939 2 – Communication: «Celox».
Yr Alwad
Yng nghalon y Dwyrain Canol, mae pobloedd Rojava (Cwrdistan Syriaidd) wedi codi yn erbyn y grymoedd adweithiol sydd yn eu gormesu ers degawdau. Wedi rhyddhau Rojava rhag Daesh, mae trigolion Rojava, a’r chwyldroadwyr estron niferus a aeth yno i’w cefnogi, bellach yn poeni am yr imperialwyr Americanaidd, ac am NATO, yn ogystal ag am lywodraethau adweithiol a ffasgaidd yn y Dwyrain Canol: Twrci, Sawdi-Arabia ac Irán. Bellach mae’r rhain i gyd yn ymyrryd yn yr ardal ac yn bomio yno. Wrth wneud hyn, maent yn dilyn yr un strategaethau ag a greodd lawer o’r grwpiau Islamiaethol, fel Daesh, Al Qaeda ac Al Nusra. Mae’r gwledydd cyfalafaidd a greodd y grwpiau hyn, ac a roddodd fywyd iddynt, bellach wedi colli rheolaeth drostynt.
Mae gelynion y bobl yn ei chael yn anodd iawn i roi terfyn ar yr ymdrech dros ryddid a gychwynnwyd gan bobloedd Rojava, hyd yn oed drwy ddefnyddio eu harfau arferol: lladd drwy fomio, drwy daro sifiliaid, drwy fynd â thorfaoedd o ymgyrchwyr chwyldroadol i’r ddalfa, a thrwy ymosod o hyd ar herwfilwyr y bobl. Mae’r ymdrech hon yn mynd yn ei blaen yn Rojava, yng Nghwrdistan a thrwy’r Dwyrain Canol i gyd. Erbyn hyn, menywod arfog Rojava yw hunllef waethaf y grymoedd Islamiaethol.
Wedi iddi gasglu ynghyd ei chynghreiriaid hanesyddol arferol, sef UDA, NATO, yr UE, y CU, democratiaid sosialaidd a llywodraethau adweithiol, dechreuodd Twrci ar ymgyrch ormesol helaeth drwy’r tiriogaethau Cwrdaidd yn Nhwrci, yn Irác ac yn Syria. Eu prif nod yw dinistrio uchelgais chwyldroadaol pobloedd orthrymedig Rojava.
Cefnogwn y Bataliwn Cydwladol dros Ryddid. Mae hwn yn casglu ynghyd yr ymladdwyr Comiwynyddol, anarchaidd a gwrthffasgaidd a aeth i amddiffyn Rojava, yn ysbryd y Brigadau Cydwaladol a fu’n amddiffyn Sbaen yn 1936. Dangoswn ein cefnogaeth wleidyddol ac ariannol drwy gyllido rhwymiadau hemostatig. Mae 60% o’r rhai a gaiff eu clwyfo drwy saethu yn gwaedu i farwolaeth wrth aros am ofal. Mae’r rhwymiadau hyn yn atal y gwaedu yn gyflym a’u pris yw 40€ yr un.
Cefnogwn ymdrech chwyldroadol pobloedd Rojava, a mannau eraill, yn erbyn Islamiaeth, UDA, NATO a’r gwladwriaethau adweithiol!
Combattant(e)s du Bataillon International de libération au Rojava
Yn cyfranogi yn yr ymgyrch
Y rhestr lawn bellach yma.
I ymuno â’r ymgyrch, cysylltwch â ni!
Telir yr holl ffioedd angenrheidiol (posteri, taflenni, y wefan,…) gan y cyfranogwyr. Bydd pob ewro a roddir yn mynd i Rojava.
Premier achat de Celox.
Notre Celox au Rojava
Notre Celox au Rojava
Beth yw’r Bataliwn Cydwladol dros Ryddid?
Mae’r Bataliwn Cydwladol dros Ryddid (IFB) yn frigâd annibynnol ac ynddi chwyldroadwyr o Dwrci, o Ewrop ac o fannau eraill. Ei nod yw amddiffyn chwyldro Rojava. Grym annibynnol ydyw wrth ochr YPG/YPJ/QSD.
Fe’i sefydlwyd ar 10 Mehefin, 2015, ac fe’i hysgogwyd gan y MLKP (Plaid Gomiwnyddol Farxaidd-Leninaidd Twrci a Chwrdistan). Mae’n seiliedig ar y Brigadau Cydwladol a fu’n amddiffyn y Chwyldro Sbaenaidd yn 1936. Ymgasglodd sawl grŵp chwyldroadol Comiwnyddol ac anarchaidd (e.e. TKPML/Tikko, MLSPB-DC, RC, TKEP/L, ΕΣΔΑ), yn ogystal â chwyldroadwyr annibynnol unigol, yn y BÖG (Lluoedd Undeig dros Ryddid). Mae gwahanol dueddidau gan y grwpiau hyn: Marxaeth-Leninaeth, Hoxhaaeth, Maoaeth, anarchiaeth, Trotskyaeth,…
Er pan y’i sefydlwyd, mae’r IFB wedi ymladd ar bob ffrynt yn Rojava (ac eithrio Afrin), a bu’n helpu’r lluoedd Cwrdaidd i drechu Daesh a grwpiau Islamiaethol eraill yn yr ardal.
Dilyniant hanesyddol i’r Cymorth Coch
Le SRI dans la guerre d’Espagne: à gauche des volontaires canadiens, à droite un hôpital militaire
Mae modd cymharu gwirfoddolwyr yr IFB â’r Brigadau Cydwladol yn Sbaen, ac ymroddiad y Cymorth Coch Rhyngwladol (a’i adran Felgaidd) rhwng 1936 a 1939. Y pryd hynny, cyllidodd y Cymorth Coch gyflenwadau meddygol i’r ymladdwyr gwrthffasgaidd.
Y diweddaraf ar 1 Chwefror 2018
Amddiffynnwn y lluoedd sydd yn amddiffyn Rojava yn Afrin!
Mae’r ymgyrch i brynu Celox ac i’w anfon i’r Bataliwn Cydwladol dros Ryddid yn Rojava wedi profi’n llwyddiannus iawn. Dechreuodd cyn y frwydr dros Kobane, a datblygodd fel y cafodd y lluoedd cydwladol Celox ar gyfer yr ymosodiad terfynol ar y galiffiaeth yn y frwydr fawr dros Raqqa. Yn ystod y rhyfel bu’r lluoedd cydwladol yn eu hatrefnu eu hunain yn Rojava (ac ymddangosdd unedau newydd, fel yr ’YPG Rhyngwladol’). Yn awr, a byddin Twrci a’u cefnogwyr Islamiaethol yn ymosod ar Rojava yn Afrin, a’r lluoedd cydwladol yn symud tuaf at y ffrynt hwn, gwelir bod Celox yn bwysicach byth. Ar frys, rhaid inni gyllido, prynu a delifro’r Celox newydd i’r ffrynt. Cyfrannwch i’r ymgyrch hon, os gwelwch yn dda!
manifestation en solidarité avec les internationalistes espagnols